Header Image for Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll

Mwy am ein Cymuned

Llanfair yn Neubwll

Mae cymuned Llanfair yn Neubwll yn cynnwys pentrefi Caergeiliog, Llanfihangel yn Nhowyn a Llanfair yn Neubwll.

Ar y culfor gyferbyn â Ynys Cybi ar arfordir orllewinol Ynys Môn mae Llanfair yn Neubwll. Mae’n gymuned wledig gyda chlystyrau ynysig o dai a thyddynod. Llyn Dinam a Llyn Penrhyn yw’r ddau  bwll a gyfeiwyd atynt a’r llan yw’r Eglwys Santes Fair.  Mae darn helaeth o’r ardal yn ‘ Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’.

Mae pentref Caergeiliog wedi'i lleoli ar yr A5 rhwng cyffordd 3 a 4 o wibffordd yr A55. Cyn agor yr A55  yn Mawrth 2001 ‘roedd y drafnidiaeth i Gaergybi ac Iwerddon i gyd yn mynd drwy ganol y pentref ac heibio’r Tolldy – sydd yn un o’r tri gwreiddiol a adeiladwyd gan Thomas Telford i hel arain at gynnal yr A5.

Y drydydd pentref yn gymuned yw Llanfihangel yn Nhowyn a saiff rhwng Llyn Traffwll a Llyn Penrhyn. Roedd hwn unwaith yn ardal fawr o dir comin  a thwyni tywod oedd yn arwain i lawr i Fae Cymyran.

gate Guardian of RAF ValleyYma mae’r Orsaf Llu Awyr Brenhinol y Fali, sydd hefyd yn cael ei defnyddio fel Maes Awyr Ynys Môn. Fe’i sefydlwyd ar Tywyn Trewan yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan chwalwyd darn helaeth o'r twyni tywod i greu rhedfeydd. Carthwyd silt o'r gorymdeithiau a'r llynnoedd cyfagos i ledaenu dros y meysydd awyr i sefydlogi'r tywod a creuwyd clwstwr o lynnoedd bach newydd yn ystod y broses hon. Cyn hyn Llyn Penrhyn a Llyn Dinam oedd yr unig llynnoedd mawr yn yr ardal.

Llanfair yn NeubwllUn o‘r lynnoedd newydd hyn oedd Llyn Cerrig Bach lle cafwyd hyd i gelc fawr o arfau a chelfi o Oes yr Haearn. Dywedir fod y darganfyddiadau archeolegol trawiadol yma yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn Ewrop. Mae’r trysorau yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yng Nghaerdydd.

Mae rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus rhwng y llynnoedd ac mae Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg, Llyn Traffwll a rhannau o Llyn Dinam yn ffurfio ' Gwlyptiroedd y Fali' sy'n yn Warchodfa Natur yn eiddo Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae darn mawr o'r warchodfa wedi ei nodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.