Header Image for Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll
Gwybodaeth a Dogfennau Defnyddiol

Ceisiadau Cynllunio

Nid yw’r Cyngor Cymuned yn gyfrifol am benderfynu ar geisiadau cynllunio, ond fel un o’r ymgynghorai statudol mae gennym hawl i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio o fewn ein ffiniau.
Mae manylion llawn am yr holl geisiadau cynllunio i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn lle mae cyfle i chi roi sylwadau yn uniongyrchol.


Cymyran 2Gall y rhai sydd am fwynhau’r cefn gwlad a’r arfordir naill ai ddilyn adran 10 o Lwybr Arfordirol Ynys Môn neu ddewis o tua 30 o lwybrau cyhoeddus sy'n cysylltu ein pentrefi ac yn rhedeg trwy ardaloedd o harddwch naturion eithriadol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o amgylch gwarchodfa Gwlyptiroedd Dyffryn (CFGA).

Mae manylion llawn am y llwybrau cyhoeddus ar gael ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn:

Llanfair yn NeubwllMae'r Cyngor Cymuned yn gyfrifol am oruchwylio a thorri llwybrau cyhoeddus Llanfair -yn- Neubwll ac rydym yn gobeithio y gallwch ein helpu i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn briodol drwy adrodd am unrhyw broblemau i'r clerc .

Yn y cyfamser, rydym yn gobeithio y byddwch yn "Parchu, Gwarchod , Mwynhau" ac yn cadw at y Côd Cefn Gwlad:

Byddwch yn ddiogel; cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion.

Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw.

Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid , ac ewch â'ch sbwriel adref.

Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill.

   

Diolch yn fawr.