Header Image for Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll

Gwybodaeth y Cyngor 

Beth yw Cyngor Cymuned?

Y Cynghorau Cymuned sydd yn cynrychioli’r haen isaf o lywodraeth leol, ac nhw felly yw'r agosaf at y cyhoedd o ran cwrdd ag anghenion lleol. Fel arfer mae’r Cynghorwyr Cymuned yn cael eu hethol i’w swydd gan breswylwyr lleol am gyfnod o bedair blynedd. Fe gynhelir yr etholiadau ar gyfer Cynghorau Cymuned ym mis Mai ar yr un pryd ag etholiadau lleol eraill i Gynghorau Sir a / neu Gynghorwyr Tref ond gall hefyd gyd-daro ag etholiad cyffredinol. Hefyd mae hawl i cyfethol i llenwi swyddi gwag sy'n digwydd yn ystod y tymor pedair blynedd .

Beth mae ein Cyngor Cymuned yn ei wneud ?

Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll sydd yn gyfrifol am Gae Chwarae Caergeiliog, am gynnal y llwybrau cyhoeddus a’r llochesi bws. Mae gennym gynrychiolwyr ar Gorff Llywodraethol Ysgol y Tywyn a Bwrdd Gofalwyr Tywyn Trewan a gallwn hefyd gynorthwyo gydag ymgynghoriadau cyhoeddus. Mae gennym hawl i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio, materion hawliau tramwy cyhoeddus, materion trwyddedu, mesurau arafu traffig, is-ddeddfau lleol ac ati.

Cyfarfodydd y Cyngor Cymuned

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn Neuadd Bentref Caergeiliog am 7 y.h. ar y trydydd dydd Mawrth o bob mis ac eithrio mis Awst a mis Rhagfyr.

Neuadd CaergeiliogNid oes gan aelodau o'r cyhoedd hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau y Cyngor nac i roi barn yn ystod y cyfarfodydd - ond wrth gwrs mae croeso iddynt eu mynychu.

Os ydych yn dymuno dod i gyfarfod y Cyngor, neu os hoffech i ein cynorthwyo i hyrwyddo lles y gymuned fel Cynghorydd Cymuned, yna byddem yn falch iawn o glywed gennych.

 Adobe Acrobat reader is required to view some of these documents.
Mae angen darllenydd Adobe Acrobat i edrych ar rai o'r dogfennau hyn. 
Beth yw Adobe pdf? I gael y meddalwedd rhad ac am ddim cliciwch Get Acrobat Reader. Ar gyfer y rhai â golwg cyfyngedig - ewch i 'Mynediad Adobe' am ragor o wybodaeth am Adobe.